Comisiwn y Senedd                                    

 

Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Llun, 23 Medi 2024

 

Amser:

10.35 - 12.30

 

 

 

Cofnodion:  SC(6)2024(6)

 

 

 

Aelodau’r Comisiwn:

 

Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd)

Hefin David AS

Janet Finch-Saunders AS

Adam Price AS

Joyce Watson AS

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol

Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl dros dro

Simon Hart, Pennaeth dros dro y Gwasanaethau Ariannol

James Attridge, Uwch-reolwr  Diogelwch

Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau

Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

 

 

 

 

 

<AI1>

1      Cyflwyniad

 

</AI1>

<AI2>

1.a  Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

Croesawyd Simon Hart i’r cyfarfod, sydd wedi ailafael yn swydd y Prif Swyddog Cyllid Dros Dro.

 

</AI2>

<AI3>

1.b  Datgan buddiannau

 

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

</AI3>

<AI4>

1.c   Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf, a chytunwyd i drafodpenderfyniad oedd heb ei wneud yn ystod y cyfarfod diwethaf o dan unrhyw fater arall.

 

</AI4>

<AI5>

2      Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2025-26

 

Trafododd y Comisiynwyr y gwaith diweddaraf ar y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26, a oedd yn cynnwys newidiadau ers y cyfarfod blaenorol.

Trafodwyd y ffaith y byddai’r Gyllideb ddrafft yn cwmpasu’r flwyddyn gyntaf o gynnydd sylweddol a pharhaol i gyllideb y Comisiwn o ganlyniad i Ddiwygio’r Senedd, wrth i’r sefydliad gynyddu nifer y staff a chwblhau addasiadau strwythurol i’r ystad i greu lle ar gyfer mwy o Aelodau a staff cymorth yn barod ar gyfer 2026-27. Trafodwyd natur hanesyddol y newid.

Er eu bod wedi’u neilltuo ar hyn o bryd, byddai costau Diwygio’r Senedd yn symud i ‘fusnes fel arfer’, fel y nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y dyfodol pan gafodd ei gyhoeddi yn 2023.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 i’w gosod a’r llythyr at y Pwyllgor Cyllid. Nodwyd datganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid hefyd, a drafodwyd yn y llythyr a anfonwyd at y Pwyllgor, a’r llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Wrth gytuno ar y Gyllideb Ddrafft, nododd y Comisiynwyr yn dilyn dwy flynedd o ostyngiadau ac arbedion o ran y gyllideb o ganlyniad i daliadau costau byw, a chan nodi’r adborth a gafwyd gan Aelodau ynghylch rhoi’r gorau dros dro i deithio rhyngwladol, cymorth hyfforddi a phryder am lesiant staff, nid oedd modd nodi arbedion pellach heb wneud toriadau parhaol i’r gwasanaethau a ddarperir i Aelodau, oherwydd lefel y gwaith o gyflwyno rhaglenni a chyflawni newidiadau erbyn 2025-26.

Mae egwyddorion y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig yn golygu bod gan y Comisiwn brosesau ar waith sy'n sicrhau y byddai'r sefydliad yn ystyried arbedion a ffyrdd o wella effeithlonrwydd yn barhaus wrth iddo wneud penderfyniadau gweithredol.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y cynnydd o 20.96% yn y gyllideb weithredol rhwng 2024-25 a 2025-26 (11.08% ac eithrio rhaglen Ddiwygio’r Senedd, y rhaglen Ffyrdd o Weithio, a chyllidebau nad ydynt yn arian parod), a’r cynnydd o 16.77% yn y gyllideb gyffredinol rhwng 2024-25 a 2025-26. Gan ystyried y costau ychwanegol hysbys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a ddisgwylir yn 2025-26, y cynnydd cyffredinol i’r gyllideb yw 11.56% (addasiad 10.80% i’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer dyfarniadau cyflog a chwyddiant).

Bu’r Comisiynwyr hefyd yn trafod y broses o ymgysylltu â’r Aelodau, ac roeddent am ehangu ar hynny yn y blynyddoedd i ddod wrth i’r Comisiwn bennu cyllidebau i ddarparu’r eiddo, y staff a’r gwasanaethau sydd eu hangen at ddibenion y Senedd. Nodwyd y gellid ymgysylltu’n fwy â’r Aelodau fel rhan o’r broses flynyddol, dan gyfarwyddyd y Comisiwn, ar ôl diweddaru’r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig bob gwanwyn.

 

</AI5>

<AI6>

3      Diweddariad ar drafodaethau cyflog

 

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa gyfredol y trafodaethau cyflog sy’n mynd rhagddynt, a’r cyd-destun o ran cyllideb y Comisiwn, yn dilyn y llythyr a anfonwyd at Ochr yr Undebau Llafur ar 9 Medi a’r ymateb a gafwyd ar 18 Medi. Roeddent yn rhagweld symud ymlaen o ran y dyfarniad cyflog.

 

</AI6>

<AI7>

4      Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Senedd

 

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am ddwy agwedd ar waith yn ymwneud â Diwygio’r Senedd.

1)    Canlyniad digwyddiad “Cwrdd i Ffwrdd” y Pwyllgor Busnes / Comisiwn y Senedd

Croesawyd y Dirprwy Lywydd i’r cyfarfod a rhoddodd ddiweddariad ar gynnydd y cynigion ar gyfer bwrw ymlaen ag elfennau o’r gwaith paratoi ar gyfer y Seithfed Senedd. Dywedodd mai’r bwriad oedd gofyn am gael sefydlu pwyllgor ffurfiol i symud y gwaith yn ei flaen. Byddai'n cyflwyno cynigion i'r Pwyllgor Busnes yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.

2)    Deialog y Comisiwn a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol 

Cafodd y Comisiynwyr ddwy eitem o ohebiaeth yn ymwneud â’r cymorth uniongyrchol a ddarperir i gynorthwyo Aelodau i wneud eu gwaith seneddol, yn dilyn ymlaen o gyfarfod y Comisiwn a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol ym mis Gorffennaf. Trafododd y Comisiynwyr pa mor bwysig oedd hi i Aelodau ymgysylltu â'r Bwrdd, a nodwyd y diweddariadau a ddarparwyd.

 

</AI7>

<AI8>

5      Rheoli absenoldeb salwch hirdymor

 

Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am wybodaeth a sicrwydd ynghylch dull y Comisiwn o reoli absenoldeb salwch, yn benodol salwch hirdymor a salwch oherwydd iechyd meddwl gwael.

Cawsant wybodaeth yn nodi'r polisïau, y prosesau a'r fframweithiau sydd ar waith i reoli absenoldeb salwch yn effeithiol. Gofynnodd y Comisiynwyr am gael gwybodaeth feincnodi sy’n cymharu’r sefyllfa â data hanesyddol y sector cyhoeddus a’r Comisiwn, i’r graddau y mae hynny ar gael o fewn rheswm.

 

</AI8>

<AI9>

6      Cynghorwyr Annibynnol

 

Bu'r Comisiynwyr yn ystyried gwybodaeth am sefyllfa gytundebol Cynghorwyr Annibynnol presennol y Comisiwn. Cytunwyd i gynnig estyniad i gytundeb presennol Aled Eurig hyd at 26 Tachwedd 2026. Byddai hyn yn rhoi cysondeb i gadeiryddion y ddau bwyllgor cynghori dros y cyfnod o bontio i’r Seithfed Senedd.

Cytunwyd i ystyried gofynion y broses ar gyfer recriwtio’r garfan nesaf o Gynghorwyr Annibynnol, a’r ffordd y bwriedir ymdrin â’r broses honno, sy’n cynnwys parhau i amrywio dyddiadau’r penodiadau, yng ngwanwyn 2025. 

 

</AI9>

<AI10>

7      Llythyr at y Pwyllgor Cyllid

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar lythyr i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor Cyllid mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor a nodir yn ei adroddiad Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am arolygon Llesiant Staff yn arbennig.

Bydd y llythyr yn cael ei gyhoeddi gyda phapurau cyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

</AI10>

<AI11>

8      Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

 

Nododd y Comisiynwyr yr ymateb y byddai’r Prif Weithredwr yn ei anfon at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i roi diweddariadau pellach o ran argymhellion yr Adroddiad Craffu ar Gyfrifon 2022-23. Roedd hyn yn cynnwys:

Roedd y llythyr hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau a roddwyd ar waith yn sgil y Gronfa Prosiectau a chontractau a ddyfarnwyd i gyflenwyr o Gymru.

 

</AI11>

<AI12>

9      Papurau i'w nodi:

 

</AI12>

<AI13>

9.a  Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - Mehefin a Gorffennaf 2024

 

Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a gynhaliwyd ar 10 Mehefin a 8 Gorffennaf.

 

</AI13>

<AI14>

9.b  Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

 

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio diweddar.

 

</AI14>

<AI15>

10  Unrhyw fater arall

 

Gwydr Diogelwch - Roedd gan y Comisiwn benderfyniad heb ei wneud ers y cyfarfod diwethaf. Roedd hyn yn ymwneud â'r gwydr o amgylch yr oriel gyhoeddus sy'n rhwystr rhwng yr oriel a'r Siambr. Cyflwynwyd rhagor o wybodaeth. Tynnodd y Gwasanaeth Diogelwch sylw at risg sylweddol i'r Comisiwn o ran cynyddu atebolrwydd a’r gallu i drefnu yswiriant yn y dyfodol pe bai'r gwydr yn cael ei dynnu i ffwrdd. Cytunodd y Comisiynwyr ar yr argymhelliad i gadw'r gwydr, ac i adlewyrchu hynny yn y dyluniadau terfynol ar gyfer y Siambr wedi'i haddasu a fyddai'n cael eu hystyried yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Y Pierhead – cafodd y Comisiynwyr wybod bod cymorth allanol wedi cael ei drefnu, am gost gymharol fach, fel rhan o weithgarwch arferol y Strategaeth Ystadau, i gynorthwyo gydag ymarfer yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer defnydd hirdymor adeilad y Pierhead. Byddai anghenion Aelodau yn rhan o feini prawf craidd yr ymarfer hwn a byddai'n cael ei gynnal fel rhan o’r rhaglen Ffyrdd o Weithio.

 

Ymgynghoriad ar dramffordd Caerdydd Canolog i Fae Caerdydd – Cafodd y Comisiynwyr wybod am yr ymgynghoriad ar y dramffordd sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Gyngor Caerdydd a Thrafnidiaeth Cymru. Nodwyd y byddai swyddogion yn ymateb gan gyfeirio at gynllun cynaliadwyedd blynyddol y Comisiwn.

 

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar lythyr gan Hefin David AS at y Pwyllgor Cyllid dyddiedig 19 Gorffennaf 2024, ynghylch sut y bydd y Comisiwn yn ymgysylltu ag Aelodau o ran darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

 

Nodwyd hefyd lythyr gan y Prif Weithredwr at y Bwrdd Taliadau Annibynnol dyddiedig 2 Medi 2024, yn ymwneud â chymorth y Comisiwn ar gyfer Aelodau, a llythyr oddi wrth y Llywydd dyddiedig 18 Gorffennaf 2024 yn dilyn cyfarfod y Comisiynwyr â’r Pwyllgor Busnes, am waith y mae’r Dirprwy Lywydd yn bwrw ymlaen ag ef.

 

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>